Lleoliad: Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 4 Gorffennaf 2022
Amser:
09.33 -
10.48
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12905
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Vikki Howells AS (Cadeirydd) Natasha Asghar AS John Griffiths AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
James Drummond, Corff Corfforaethol Seneddol yr Alban Michael Haplin, Corff Corfforaethol Seneddol yr Alban Martin Whitfield MSP, Y Pwyllgor Safonau, Gweithdrefnau a Phenodiadau Cyhoeddus, Senedd yr Alban |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Lisa Hatcher (Swyddog) Aled Elwyn Jones (Swyddog) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.
2 Ymatebion i'r ymgynghoriad ar lobïo
2.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion i’r ymgynghoriad a chytunodd i drefnu grwpiau ffocws, yn ogystal â gofyn am ragor o dystiolaeth gan grwpiau penodol.
3 Trafod Grwpiau Trawsbleidiol
3.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymgynghoriad ar Grwpiau Trawsbleidiol yn ystod toriad yr haf, ac i adolygu’r dystiolaeth sy’n dod i law yn gynnar yn nhymor yr hydref.
4 Trafodaeth anffurfiol gyda Chynullydd Pwyllgor Safonau, Gweithdrefnau a Phenodiadau Cyhoeddus yr Alban
4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod lobïo â Chynullydd Pwyllgor Safonau, Gweithdrefnau a Phenodiadau Cyhoeddus yr Alban.